.....swyddi


Swyddi Cyfredol


Cyfreithiwr / Swyddog Gweithredol Cyfreithiol Llawn Amser / Rhan Amser


Lleoliad - Swyddfa Porthmadog, Y Bermo gyda opsiwn i weithio yn hyblyg

 

Cyfreithwyr Breese Gwyndaf yw un o brif gwmnïau gwasanaethau cyfreithiol o ansawdd yng Ngogledd Cymru a thu hwnt.

 

Mae'r cwmni'n dymuno penodi Cyfreithiwr cymwysedig sydd wedi ymrwymo i ddatblygu eu gyrfa yng nghyfraith cleientiaid preifat ac yn chwilio am gyfle i ymuno â'n thîm safonol a brwdfrydig. Byddai profiad blaenorol o weithio mewn practis stryd fawr a’r gallu i reoli llwyth gwaith yn fanteisiol.

 

Disgwylir i’r ymgeiswyr fod: 

 

  • yn hynod drefnus ac yn gallu gweithio ar eu liwt eu hunain
  • yn weithgar
  • yn frwdfrydig
  • yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol a ffocws ar y cleient
  • yn ymroddedig ac yn frwdfrydig dros ddatblygu a marchnata busnes


Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ond nid yn hanfodol.

 

Rydym yn cynnig cyflog cystadleuol a buddion - yn ddibynnol ar brofiad. Cynigir ymrwymiad i hyfforddiant a datblygu yn barhaus

 

I wneud cais, cysylltwch â:


Bethan Williams

Rheolwr y Practis

60 Stryd Fawr

Porthmadog

Gwynedd

LL49 9LL

 

ebost bethane@bg-law.co.uk