.....ein gwasanaethau


PRYNU A GWERTHU EIDDO

Os yn symud cartref, gwerthu neu brynu am y tro cyntaf, rydym yn llawn ddeall y gall hyn achosi pwysau ychwanegol. Rydym hefyd yn deall fod hyn yn ymrwymiad sylweddol - yn ariannol ac yn emosiynol. Rydym felly, yn anelu i leihau’r pwysau trwy ddarparu gwasanaeth cyfeillgar, proffesiynol a chyflym.

 

Yma yn Breese Gwyndaf rydym yn credu bod gwasanaeth bersonol a gwybodaeth leol yn rhoi mantais dros ‘Wasanaethau Canol fannau Galw‘ nad ydynt yn cynnig i'w cleientiaid pwynt cyswllt penodol na mynediad at aelod staff cymwysedig i ddelio a'ch ymholiad. Rydym wedi ein hachredu gyda CQS, Cynllun Ansawdd Trawsgludo Cymdeithas y Cyfreithwyr.

 

Mae prynu tŷ yn un o’r buddsoddiadau mwyaf yr ydym yn gwneud mewn bywyd. Bydd ein tîm profiadol sydd â chyfoeth o wybodaeth leol rhyngom yn gallu rhoi cyngor annibynnol i sicrhau bod eich pryniant neu werthiant yn cael ei wneud yn gyflym ac yn effeithiol.

 

Rydym yn delio â phob agwedd o faterion yn ymwneud ag eiddo preswyl gan gynnwys :

 

  • Prynu a gwerthu tai, fflatiau a lleiniau o dir
  • Prynu i osod
  • Anghydfodau ffiniau
  • Gweithredoedd hawlfraint a grantiau o hawliau tramwy
  • Prydlesi
  • Morgeisi ac ail-forgeisi
  • Cytundebau tenantiaeth
  • Trosglwyddo ecwiti
  • Cyngor eiddo cyffredinol

 

Bydd ein harbenigedd yn sicrhau bod y gwasanaeth cyfreithiol rydym yn ei ddarparu yn rhoi'r canlyniadau safonol disgwyliedig.