.....ein gwasanaethau


CYFLOGAETH

Os ydych yn gyflogwr neu’n gyflogai gallwn eich helpu i ddelio ag unrhyw faterion cyflogaeth. Boed hyn yn ymdrin â’r gwaith o baratoi dogfennau ar gyfer cychwyn y gyflogaeth neu anghydfodau sy’n digwydd pan ddaw’r gyflogaeth i ben.


Mae pawb yn haeddu cael eu trin yn deg yn y gwaith. Ond o bryd i’w gilydd, gall pethau fynd o chwith. Gall perthnasau gweithle dorri  lawr neu efallai byddwch yn wynebu risg o golli eich swydd. Os ydych yn wynebu anghydfod yn y gwaith, mae’n dda gwybod bod rhywun y gallwch droi atynt am gyngor.


Rydym yma i’ch helpu i ddelio ag ystod eang o faterion cyflogaeth a gallwn roi cyngor ar bopeth o gytundebau cyflogaeth i ddiswyddo annheg. Gallwch siarad â ni yn gwbl gyfrinachol a chael sicrwydd o siarad â rhywun sy’n deall eich sefyllfa.


Mae pob agwedd ar gyfraith cyflogaeth yn cael eu cynnwys , gan gynnwys :


  • Diswyddo annheg
  • Gwahaniaethu
  • Diswyddo ac ailstrwythuro
  • Anghydfodau Ystafell y Bwrdd
  • Mamolaeth, tadolaeth a hawliau mabwysiadu
  • Tâl a rheoli absenoldeb oherwydd salwch
  • Dogfennau Cyflogaeth
  • Cytundebau Cyfaddawd
  • Eiriolaeth a thribiwnlys cyflogaeth
  • Anghydfodau a chydnabyddiaeth Undebau Llafur
  • Cyfyngiadau ôl- derfynu