Yma yn Breese Gwyndaf, rydym yn gallu cynghori cleientiaid ar y rhan fwyaf o agweddau ymgyfreitha sifil a masnachol.
Byddwn yn asesu ac yn trafod cryfderau a gwendidau eich achos gyda chi ar y cam cynharaf ac yna rhoi cyngor i chi yn wrthrychol ac yn glir am yr opsiwn orau o weithredu . Mae gennym brofiad eang o gynnal ac amddiffyn hawliadau am iawndal a rhwymedigaethau eraill i wrandawiad terfynol yn y Llys Sirol, Uchel Lys, a’r Llys Apêl.
Yn hanfodol, byddwn yn ceisio datrys y mater mor gyflym ac effeithlon ag y bo modd, a’ch arwain drwy bob cam o’r broses gyfreithiol mor ddibryder â phosib. Yn ogystal, os tybir bod hynny’n briodol, byddwn yn trafod yr opsiwn o gyfryngu neu ddulliau eraill o ddatrys anghydfod gyda chi i geisio sicrhau cyfaddawd cynnar sy’n dderbyniol ac y gallai yn y pen draw gyfyngu ar eich costau.
Rydym yn darparu cymorth mewn amrywiaeth o faterion gan gynnwys :
Rydym hefyd yn gwneud gwaith ar sail dim ennill dim ffi.