.....amdanom ni



Rydym yn ymfalchïo yn ein hanes ac rydym yn gallu nodi dau beth na all gwmnïau eraill ymfalchïo ynddo. Yn gyntaf, bod y cyn Prif Weinidog, David Lloyd George, wedi cael ei hyfforddi gan y cwmni ac yn ail, ac o bosib yn bwysicach, bod y cwmni wedi gwasanaethu’r gymuned leol am dros 175 o flynyddoedd. Mae hynny o ganlyniad i Breese Gwyndaf gyfuno yn gyda dau gwmni yn 1991, sef Breese Jones & Casson (sefydlwyd yn 1844) a Gwyndaf Williams & Roberts (sefydlwyd yn 1932). Mae’r Cwmni wedi parhau i ehangu yn ystod y blynyddoedd diwethaf gan gaffael cwmni David Hughes & Bryan o'r Bermo a Roberts & Robyns ym Mhwllheli.


Mae ein swyddfeydd wedi eu lleoli mewn mannau amlwg o fewn trefi Porthmadog, Pwllheli a'r Bermo. Mae gennym brofiad helaeth o wneud y gwaith nodweddiadol ac arferol yn y maes cyfreithiol. Ynghyd â gwaith mwy arbenigol a dwys megis anghydfodau adeiladau ac eiddo ar gyfer naill a'i'r cwsmer neu ddatblygwyr. Ymgyfreitha / anghydfodau eiddo fel y rhai sy'n ymwneud â hawliau tramwy / tresmasu a thrafodion eiddo masnachol p'un ai yw'n rhydd neu les ddaliad. Mae’r Cwmni wedi bod yn rhan o gamau gweithredu / trafodion busnesau sy’n ymwneud â'r diwydiant dŵr mwynol, cloddfa aur, chwarel lechi a maes awyr.

Ein Swyddfa ym Mhorthmadog

1922

2021