.....ein gwasanaethau


TEULU / YSGARIAD

Mae tor priodas neu berthynas yn amser anodd iawn i’r unigolyn ac i’r teulu. Rydym yma i geisio eich cefnogi drwy’r amser dyrys yma. Rydym yn cynnig ystod eang o wasanaethau i’n cleientiaid teuluol o faterion ysgariad a gwahanu - a materion ariannol sydd yn codi o hynny, i achosion sy’n cynnwys cael mynediad at ac amddiffyn plant. Rydym yn delio a cheisiadau Gorchmynion Trefniadau Plant o bob math. Mae profiad eang gennym o waith achosion gofal a delio gyda Awdurdodau Lleol.


Mae gennym gytundeb gyda’r Asiantaeth Cymorth Gyfreithiol i ariannu achosion Llys yn ymwneud a materion ariannol Ysgaru, ac achosion preifat a gofal yn ymwneud a phlant. Holwch os ydych yn gymwys i‘w dderbyn.


Gallwn eich helpu gydag ystod eang o faterion yn ymwneud a’r teulu gan gynnwys:


  • Ysgaru a Pherthynas yn Chwalu
  • Aneddiadau ariannol ar Ysgariad
  • Trais ac Anafiadau yn y Cartref
  • Materion Plant gan gynnwys Gorchmynion Trefniadau, Camau Gwaharddedig
  • Cipio Plant
  • Mabwysiadu a Gorchmynion Gwarcheidigiaeth Arbennig
  • Achosion Gofal